Ar y we

Rhowch gynnig ar y cwestiynau hyn heb edrych yn y llyfr os yw’n bosib.

delwedd ar y we
symbolau cwis
Rwyt ti ar wefan cwmni cyfarwydd i ti. Mae cyfle i ennill gwobr wych. Er mwyn ennill bydd rhaid i ti rannu dy enw llawn a dy gyfeiriad. Wyt ti’n ...
symbolau cwis
Rwyt ti’n derbyn neges gan fachgen o ddosbarth arall yn gofyn am rif ffôn un o dy ffrindiau. Wyt ti’n ...
symbolau cwis
Rwyt ti’n mynd i barti yn nhŷ ffrind. Yn ystod y parti mae un o’r merched yn tynnu llun ohonot ti ac un o dy ffrindiau. Mae’n dweud ei bod yn mynd i roi’r llun ar-lein. Rwyt ti’n hapus gyda hyn ond dydy dy ffrind ddim yn fodlon. Beth ddylai’r ferch wneud nawr?
symbolau cwis
Rwyt ti wedi cael benthyg ffôn dy fam er mwyn chwarae dy hoff ap. Wrth chwarae’r ap, rwyt ti’n gweld neges ar y ffôn oddi wrth dy athro dosbarth. Wyt ti’n ... ?
symbolau cwis
Mae dy ffrind Olga wedi bod yn siarad gyda rhywun ar-lein. Roedd hi’n meddwl bod y person yma yr un oed â hi a rhannodd sawl stori. Yn ddiweddar mae wedi gofyn ydyn nhw’n gallu cwrdd. Beth ddylai Olga wneud?
symbolau cwis
Mae pawb yn yr ysgol yn sôn am yr ap gwych yma. Rhaid bod yn 16 oed er mwyn chwarae’r ap. Rwyt ti am chwarae’r ap hefyd. Wyt ti’n ... ?
symbolau cwis
Dy dasg gwaith cartref ydy tynnu llun o dy hoff arwr. Rwyt ti’n gweld llun gwych o dy arwr ar-lein ac yn ei brintio. Wyt ti’n ... ?
symbolau cwis
Mae ffrind yn anfon neges destun atat yn dweud rhywbeth cas iawn am ffrind arall. Wyt ti’n ... ?
1 2 3 4 5 6 7 8
Ar y we

Ar y we

Rhowch gynnig ar y cwestiynau hyn heb edrych yn y llyfr os yw’n bosib.

Grêt, mêt!

Ateb cywir. Rwyt ti wedi cwblhau'r dudalen hon.